Pryd gwell na Diwrnod Shwmae Su’mae i gyhoeddi 74 GIF iaith Gymraeg newydd sbon gan Mwydro i bawb allu eu defnyddio yn rhad ac am ddim ar gyfryngau cymdeithasol!
Dylunnir y GIFs, sy’n serennu Idiomau, Diarhebion a Dywediadau Cymraeg, gan blant talentog Ysgolion Uwchradd sir Ceredigion mewn cyfres o weithdai GIFs i Ysgolion diweddar gan gwmni darlunio digidol Mwydro o Gaernarfon.



Arweinir y gweithdai ar y cyd gyda Cardi Iaith, Tîm Cefnogi’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion, i roi cyfle hwyl ac unigryw i ddisgyblion dathlu a defnyddio’r iaith Gymraeg drwy gelf ddigidol.
Mewn taith wythnos o saith gweithdy gweler dros 200 o ddisgyblion yn ymroi i’r gweithgaredd o droi eu brasluniau ar bapur o idiomau a dywediadau tafodieithol amrywiol o ‘Wedi Danto’, i ‘Cof fel Gogr’ i ‘Chwit Chwat’, yn gampweithiau digidol. Cafwyd y goreuon wedyn eu danfon ymlaen i’w drawsnewid yn Sticeri GIFs digidol a’u gosod yn y bar chwilio GIFs cyhoeddus.
Meddai Enfys Hatcher, athrawes yn Ysgol Henry Richard: “Diolch i Mwydro a Cardi Iaith am ddod allan i’n hysgol. Roedd yn brofiad gwych i’r disgyblion! Mae’r idiomau yn wych!”
I ganfod y casgliad lawn o GIFs chwiliwch @mwydro yn y bar chwilio GIFs cyhoeddus ar Instagram, Snapchat neu TikTok, neu @mwydro Sticker ar Facebook, X, WhatsApp neu Canva. Neu, gellir hefyd chwilio am enw’r idiom neu ddihareb yn unigol.

Mae casgliad Mwydro o GIFs iaith Gymraeg Mwydro bellach yn bron i 1,500 o GIFs, sydd wedi eu gweld dros 250 miliwn o weithiau. Meddai Sioned Young, sylfaenydd Mwydro:
“Mae hi’n deimlad arbennig gallu rhoi rhywbeth yn ei le i wneud hi’n hawdd a hwyl i unrhyw un o unrhyw ran o’r byd defnyddio’r iaith Gymraeg ar eu cyfryngau cymdeithasol. Nid yw Mwydro’n gwneud unrhyw gomisiwn nac elw o bobl yn defnyddio ein casgliad cyhoeddus o GIFs iaith Gymraeg, ond mae’n wych gweld sut mae’r GIFs wedi cyrraedd cymaint o bobl!”



Mae cwmni Mwydro yn teithio hyd a lled Cymru yn arwain Gweithdai GIFs Cymraeg i Ysgolion gan gynnwys Gweithdy GIFs Enwau Lleoedd Cymraeg sydd wedi’i fwynhau gan dros 100 o ysgolion, a bellach y Gweithdy GIFs Idiomau newydd hefyd. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu sesiwn cysylltwch â Mwydro ar info@mwydro.com .








