GIFs i Ysgolion

Yn o gystal â dylunio GIFs, mae Mwydro hefyd yn dysgu plant a phobl ifanc sut i ddylunio GIFs eu hunain drwy brosiect Hac y Gymraeg - GIFs mewn Ysgolion.

Wedi'i ariannu o fis Mawrth - Gorffennaf 2023 trwy gronfa #HacYGymraeg Llywodraeth Cymru, bu llwyddiant ysgubol y prosiect yn golygu fy mod i bellach wedi ymestyn y prosiect tu hwnt i'r cyfnod ariannu ac mae ysgolion bellach yn gallu talu am weithdai GIFs mewn Ysgolion eu hunain.

Mae'r GIFs yn canolbwyntio ar greu darluniad i GIF hwyl a llawen o Enwau Lleoedd Cymraeg, sydd wedyn yn cael eu gosod yn y bar chwilio GIFs cyhoeddus i bawb allu eu defnyddio.

Mae #HacYGymraeg yn brosiect rhyngweithiol ble mae disgyblion yn cael eu harwain drwy sut i droi eu hoff Enw Lle Cymraeg yn Ddarluniad Digidol ar gyfer Sticer GIF i bawb allu ei ddefnyddio ar Instagram, TikTok, Snapchat, WhatsApp, Facebook a mwy!

Hyd y gweithdy yw 2 wers/ 2 awr i un dosbarth. Mae'r gweithdy hefyd yn cynnwys cyflwyniad i Mwydro a chwpl o gemau a gweithgareddau hwyl ynghylch ac Enwau Lleoedd Cymraeg a'r pwysigrwydd o'u defnyddio a gwarchod.

Mae ffi'r gweithdy yn cynnwys troi'r 10 darluniad gorau o'r sesiwn yn GIFs wedi'i animeiddio i bawb allu eu defnyddio. Gall ysgolion talu ffi ychwanegol fechan i animeiddio unrhyw GIFs pellach.

Y gofynion offer yw mynediad at Gyfrifiadur, Chromebook neu iPad i bawb sy'n cymryd rhan (neu un rhwng dau os ddim yn bosib), a sgrin er mwyn dangos cyflwyniad.

Gellir cynnal y gweithdy mewn person neu'n rhithiol, yn Gymraeg, Saesneg neu'n Ddwyieithog.

Wedi'i deilwra at ddisgyblion Blwyddyn 5 - 9.

Nawr yn derbyn archebion i Ionawr 2024. January 2024.

Gyda diddordeb mewn trefnu sesiwn neu eisiau rhagor o wybodaeth? Cysylltwch yn Gymraeg neu Saesneg drwy'r ffurflen isod, neu wrth e-bostio info@mwydro.com info@mwydro.com .

Eisiau dysgu mwy am wreiddiau'r prosiect? Darllenwch mwy yma...

Protecting Welsh Place-Names … one GIF at a time

That’s Sioned Young from Caernarfon’s aim with her new #HacYGymraeg (Welsh Language Hack) project. Within her project, run through her digital illustration business Mwydro, Sioned will be working with primary and secondary school pupils to design and promote a series of Welsh Language Place-Name…

Cymraeg
%d bloggers like this: