Edrych i ychwanegu rywfaint o sbonc a chymeriad i'ch marchnata ar lein? Gall Sticeri GIFs wedi'i bersonoli fod yr union beth i chi!
Mae Mwydro yn gweithio gyda busnesau mewn pob math o ddiwydiannau i gyflwyno mwy o hwyl i'w marchnata trwy Sticeri GIFs wedi'i bersonoli, a hefyd cynyddu incwm a phresenoldeb.



Trefnwch eich Galwad Darganfod heddiw!
Beth i'w ddisgwyl mewn Galwad Darganfod?

- Galwad 30 munud ar Zoom i'ch helpu i benderfynu os mai GIFs yw'r buddsoddiad orau i'ch busnes chi.
- Cyfle i wirio eich cymhwysedd a gofyn unrhyw gwestiynau
- Cael awgrymiadau ar y GIFs gorau i'ch busnes chi
- Manylion ar brisiau ac amser cwblhau
- No pressure to commit.
Hoffi sgwrsio dros e-bost yn well? Cliciwch yma i gwblhau Ffurflen Ymholiad GIFs a chychwyn ar y sgwrs fel yno!



Wyt ti'n barod i roi'r gwelededd mae dy fusnes yn ei haeddu?
Mae GIFs Mwydro wedi cael eu gweld dros 200 miliwn o weithiau, a dwi wedi helpu fy nghleientiaid i gael eu GIFs wedi'i gweld a'u defnyddio gan filoedd hefyd. Mae cael GIFs eich hunain yn brandio eich busnes yn eich rhoi yng ngolwg nifer fawr o gwsmeriaid a chleientiaid posib.
Prisiau GIFs
Mae busnesau angen o leiaf 5 GIF er mwyn bod yn gymwys i gael eu GIFs yn y bar chwilio cyhoeddus i bawb ddefnyddio, felly mae GIFs Mwydro yn cael eu gwerthu mewn pecynnau o 5 neu fwy a'n cynnwys ffi gosod yn y bar chwilio GIFs.
Mae pob pecyn GIFs yn cael ei brisio'n unigol yn ddibynnol ar ba mor gymhleth yw'r animeiddiad a dyluniad ond mae pecynnau o 5 GIFs yn amrywio o £250 i £600. Am ddyfynbris mwy union cysylltwch dros e-bost neu trefna galwad Calendly.



Pam buddsoddi mewn GIFs?


- Ffordd wych o gyflwyno mwy o hwyl i'ch busnes
- Cynyddu gwelededd eich brand gydag eich dilynwyr a'r cyhoedd ehangach.
- Gallant gael eu defnyddio ar gymaint o blatfformau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Instagram, TikTok, Facebook, Snapchat, Canva, Twitter, WhatsApp, Mailchimp a mwy
- Cyfle i sefyll allan o'ch cystadleuaeth ar-lein
- Buddsoddiad tymor byr gydag effaith hirdymor.