

Croeso i Mwydro
Helo, Sioned Young ydw i. Fi yw sylfaenydd Mwydro, cwmni Darlunio Digidol wedi'i leoli yng Nghaernarfon. Dwi'n helpu busnesau i wneud eu marchnata yn fwy hwyl a deniadol gyda Sticeri GIFs!
Gallwch chi hefyd ddod o hyd i mi yn arwain gweithdai GIFs mewn ysgolion hyd a lled Cymru, a'n gwerthu fy nghasgliad o gardiau cyfarch a chynnyrch Cymraeg.
Enillydd Gwobr IPSE - Gweithiwr Llawrydd Ifanc y Flwyddyn 2023
Dylunio GIFs
Edrych i ddod a rhywfaint o fywyd a chymeriad i'ch marchnata? Beth am fuddsoddi mewn Sticeri GIFs wedi'i bersonoli i'ch busnes?
Mae Mwydro yn barod i helpu!
Gyda rhestr hir o gwsmeriaid hapus yn amrywio o fusnesau bach i wyliau a phlatfformau newyddion, gall gwasanaeth GIFs wedi personoli gan Mwydro fod yr union beth i wneud i'ch marchnata sefyll allan o'r dorf ar lein.

Rhai o fy nghwsmeriaid GIFs hyfryd!









#HacYGymraeg - Gweithdai GIFs mewn Ysgolion
Yn o gystal â dylunio GIFs, dwi hefyd yn rhedeg gweithdai GIFs mewn ysgolion hyd a lled Cymru.
Mae fy ngweithdai yn canolbwyntio ar arwain disgyblion i ddylunio GIFs Enwau Lleoedd Cymraeg eu hunain, er mwyn helpu rhoi eu hiaith a'u treftadaeth ar y map digidol!
Gall gweithdai cael eu rhedeg mewn person neu'n rhithiol ac maen nhw'n ffordd wych o gyfuno hanes, yr iaith Gymraeg, a thechnoleg gwybodaeth i mewn i un sesiwn hwyl a gwybodus.


Cynnyrch
Cynnyrch iaith Gymraeg, llachar a lliwgar sy'n dal sylw
Mae gan Mwydro casgliad lawn o gynnyrch Iaith Gymraeg, yn amrywio o Gardiau Cyfarch at bob achlysur i Daflenni Sticeri a Phadiau Nodiadau.

Tanysgrifiwch i newyddlen Mwydro y Mwydro Mailyn eich blwch post e-byst dwywaith y mis, gyda'r newyddion diweddaraf gan Mwydro.
Cysylltwch!
Gyda chwestiwn? Awyddus i fy nghael i draw i arwain gweithdy neu werthu fy nghynnyrch o fewn eich siop?
Cysylltwch drwy e-bostio info@mwydro.com i dderbyn ateb i'ch ymholiad neu gopi o'm nghatalog masnach.