Cymerwch olwg ar fy nghasgliad o Gardiau Cyfarch Cymraeg, Taflenni Sticeri a Phadiau Nodiadau.
Maent oll ar gael i'w archebu trwy fy Siop EtsyNeu, cysylltwch os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwerthu fy nghynnyrch o fewn eich siop annibynnol.
Cardiau Cyfarch Cymraeg
Dwi'n dychwelyd i fy ngwreiddiau a'n dod a Chardiau Cyfarch yn ol i Mwydro.
A thro hyn maen nhw'n well nag erioed! Wedi'i ddylunio gyda llaw yn ddigidol ar fy iPad, ei argraffu'n broffesiynol, a'i bacio'n saff mewn llawes cellophane ac amlen kraft brown.

Taflenni Sticeri Cymraeg
Wedi ei ysbrydoli gan fy nghasgliad o Sticeri GIFs i bawb ddefnyddio ar gyfryngau cymdeithasol, dwi wedi dylunio casgliad lliwgar a hwyl o sticeri Cymraeg.
Themâu yn amrywio o Hunanofal i Ffermio i Ddysgu Cymraeg, ac maen nhw'n berffaith ar gyfer rhoi mewn dyddiadur, neu roi personoliaeth i bob math o eitemau o lyfrau nodiadau i botiau blanhigion i'ch laptop. Gwych i chi neu fel anrheg i ffrind.

Padiau Nodiadau
Tri dyluniad unigryw o fy mhadiau nodiadau A6. 50 taflen yr un ac wedi'i ddylunio'n ddigidol gyda llaw gennyf i.
Perffaith i gadw trefn ar eich rhestr to-do, neu fel anrheg i ffrind.
Ar gael mewn amrywiaeth o ddyluniadau hardd.

MASNACH
Gwerthu fy Nghynnyrch
Gyda diddordeb mewn gwerthu cynnyrch Mwydro o fewn eich siop?
Cysylltwch drwy gwblhau'r ffurflen yma neu e-bostio info@mwydro.com i ddysgu mwy ac i holi am gatalog masnach.