Haia, Sioned ydw i - sylfaenydd Mwydro, busnes bach wedi'i leoli yng Nghaernarfon sy'n arbenigo mewn dylunio GIFs, Gweithdai a Fideo Ffurf-Fer.


Hi, Sioned ydw i a dyma fy stori...
Yn 2019 yn ddim ond 23 oed, es ati i sefydlu fy musnes bach Mwydro fel cyfle i fod yn greadigol yn yr oriau rhydd ar ôl gweithio yn y joban bob dydd, yn wreiddiol trwy grefftio cardiau wedi'u gwneud â llaw.
Pan ddaeth y cyfnod clo, fe wnes i droi at y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo fy musnes a chyn hir wnes i ddarganfod wrth bostio ar straeon a fideos doedd prin unrhyw sticeri GIF Cymraeg ar gael. Felly, es ati i ddysgu fy hun a chreu GIFs Cymraeg fy hun!
Yn gyflym ymlaen at heddiw, mae gan Mwydro gasgliad o dros 1,500 o GIFau Cymraeg sydd wedi cael eu gweld dros 300 miliwn gwaith!!
Ar ôl creu GIFs i mi, fe wnes i ehangu'n fuan i greu GIFs i Fusnesau i helpu i ychwanegu rhywfaint o fywyd a chyffro i'w marchnata, gyda chleientiaid hyd yma'n cynnwys Trafnidiaeth Cymru, M-SParc, Menter Môn, Comisiynydd y Gymraeg a llawer mwy!



Yna yn 2022 enillais Hac y Gymraeg gyntaf Llywodraeth Cymru i dreialu fy mhrosiect GIFs i Ysgolion Mae'r prosiect yn parhau i fynd o nerth i nerth heddiw, gyda fi a fy nghymhorthydd Tesni wedi cyflwyno'r gweithdy i dros 150 o ysgolion ledled Cymru!
Yn awyddus i rannu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu o'r blynyddoedd, dyma'r amser hefyd i mi ddechrau cyflwyno Gweithdai on various topics including Instagram, TikTok, Canva and Setting up your Stall for Success.
Rhaid i'm cyflawniad mwyaf balch fod yn 2023, gan ennill gwobr Gweithiwr Llawrydd Ifanc y Flwyddyn IPSE yn Llundain, eiliad wirioneddol o pinch-me moment! Sy'n wych o ystyried bod y busnes bron yn gyfan gwbl yn Gymraeg a'n rywbeth dwi'n gwneud yn rhan amser ochr yn ochr a swydd rhan amser mewn Awdurdod Leol.
Yna rydyn ni'n dod heddiw. O fy mlynyddoedd i yn cefnogi busnesau i gael hwyl gyda'u marchnata a'r cynnydd mewn poblogrwydd fideo ffurf fer yn dod gan wasanaeth newydd sbon Cynnwys Campussesiynau creu fideo ffurf fer ar gyfer busnesau yng Ngogledd Cymru sy'n fyr ar amser, syniadau neu hyder.
It’s been an incredible journey so far, and I can’t wait to see what the future brings!

Tanysgrifia i Newyddlen Mwydro
Tanysgrifiwch i newyddlen Mwydro y Mwydro Mailyn dy flwch e-bost pob dau wythnos gyda newyddion arbennig a top tips handi ar gyfer Cyfryngau Cymdeithasol, Canva, Fideo Ffurf Fer a mwy!