Cynnwys Campus

Yma i ddisgleirio'r bobl tu ol i dy fusnes drwy fideo ffurf-fer

Brin ar amser, sgiliau, hyder neu syniadau i greu cynnwys fideo i dy fusnes yng Ngogledd Cymru? Gad i Mwydro helpu gyda Cynnwys Campus

Cynnwys Campus (Cracking Content) yw gwasanaeth newydd sbon Mwydro yn serennu dy fusnes neu ddigwyddiad yng Ngogledd Cymru trwy fideo ffurf fer.

Jest meddylia amdano fo fel ffotoshoot i dy fusnes, ond yn hytrach na lluniau ti'n cael banc o fideos ffurf-fer i ti ddefnyddio tro ar ol tro yn dy farchnata ar-lein Gallwn ni hefyd ffilmio cyfweliadau, fideos i 'trends' a digon o gynnwys i ddangos y bobl tu ol i'r brand!

Mae'n llawer mwy na sesiwn ffilmio fideos, gan y byddet hefyd yn cael mynediad at fentora ar y diwrnod gennyf i i helpu i feithrin dy hyder ar gamera ac i hel syniadau ar gyfer cynnwys pellach i'w creu.

  • Cer o fod yn swil ar gamera a crinj i hyderus a 'scroll-stopping' mewn un sesiwn!
  • Dweud hwyl fawr i "be ddiawl dwi am bostio?' a helo i banc o 50+ o fideos ar flaen dy fysedd!
  • Cyfnewid amau dy hun ac oedi am gynllun clir, syniadau newydd, a fideos sy'n denu cleientiaid.
  • Arbed amser, lleihau straen, a gosod dy hun fel y wyneb credadwy a dibynadwy o dy frand.
  • Reels Ychwanegol wedi eu Golygu £50 yr un
  • Galwad Strategaeth Dilynol £75 (45 munud)
  • Cynnwys ar Frys £100 (o fewn 48 awr)
  • Teithio Ychwanegol £0.45c y milltir tu hwnt i 30 milltir o Gaernarfon
Nia – Seren Celebrants

Cymraeg