Blog byr yw hwn i’ch hysbysu y bydd Mwydro yn yr Eisteddfod!
Wedi i mi fod y fuddugol yn nigwyddiad #HacYGymraeg gan Llywodraeth Cymru ac M-SParc rhai wythnosau’n ôl, dwi wedi cael gwahoddiad i ymuno mewn banel drafod am dechnoleg a’r iaith Gymraeg.
Cynhelir y panel drafod yn y Y Sfferen, y Babel Wyddoniaeth ar Ddydd lau’r 4ydd o Awst rhwng 1-1.30pm. Croeso cynnes i bawb.

Bydd y panel hefyd yn cynnwys Darllen Co, yr Uned Dechnoleg Iaith Prifysgol Bangor, Menter Iaith Môn a Cwmpas, felly’n- sicr digon o drafodaethau diddorol i’w glywed.
Dwi’n edrych ymlaen at y panel, a chael mynd o gwmpas y gwahanol stondinau a gweld cwpl o ffrindiau busnes a chwsmeriaid o Instagram mewn person! Yda chi yn yr Eisteddfod eleni? Pa le dylwn i beidio a’i fethu?
Pob hwyl, Sioned