Diolch i Lois!

Mae hi’n ddiwedd cyfnod yma un Mwydro HQ wrth i mi ffarwelio a fy Nghynorthwyydd Creadigol, Lois nawr fod ei chyfnod 12 wythnos o Gynllun Cyflogi LIwyddo’n Lleol wedi dod i ben.

Dwi’n teimlo fel fod y deuddeg wythnos yma wedi hedfan heibio, mae hi’ fraint gweld gymaint mae Lois wedi blodeuo dros y misoedd diwethaf ma. Ynghyd a’r gefnogaeth i’r busnes oeddwn i’n fwy na dim yn awyddus i gymryd y cyfle yma gan LIwyddo’n Lleol ymlaen er mwyn rhoi profiadau a chyfleoedd newydd a chyffrous i berson ifanc o Ogledd Cymru.

I ddathlu Lois a’r gwaith gwych mae hi wed ei gyflawni yn ystod eich cyfnod gyda Mwydro:

Diwrnod yn M-SParc

Cwpl o wythnosau’n ôl cawsom gwrdd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers i Lois gychwyn yn ei rôl, a chael diwrnod lawn hwyl yn ffilmio amrywiaeth o fideos n M-SParc, Gaerwen.

Un o’r fideos o’r diwrnod
Ein diwrnod yn M-SParc

Fideo Jones o Gymru

Yn o gystal a gweithio i Mwydro, dros yr haf mae Lois hefyd wedi bod yn cefnogi gyda chynnwys cyfryngau cymdeithasol Jones o Gymru. Felly, pan fu Jones o Gymru’n gleient GIFs i Mwydro odd hi’r cyfle perffaith i Lois y ddau gwmni gyda’r fideo hwyl yma.

‘Takeover’ Newyddlen Mwydro

I roi’r blas ar sawl wahanol ran o waith Mwydro, wythnos or blaen wnes i wahodd Lois i gymryd drosodd fy newyddlen am yr wythnos a rhannu rhywfaint o’i prhofiadau hi a’ i hoff busnesau bach. Oedd hi’ gret gweld ymateb cystal!

Cewch ddarllen newyddlen Lois drwy glicio yma. A chliciwch yma i danysgrifio i newyddlen Mwydro!

Blog Mythiau Instagram

Mae hi hefyd wedi bod yn brysur n sgwennu blog i Mwydro hefyd. Cliciwch yma i ddysgu mwy am y Mythiau Straeon Instagram gan Lois.

Dyfodol Disglair!

O weithio gyda Lois dros y misoedd diwethaf dwi’n ffyddiog fod ganddi hi dyfodol disglair o’i blaen! A chyffrous lawn yw clywed y newyddion ei fod wedi sicrhau swydd gyda Urdd Gobaith Cymru fel Swyddog Marchnata Digidol y cychwyn y mis Medi.

Diolch hefyd i Llwyddo’n Lleol am y cyfle. Dwi’n hynod o ddiolchgar an gobeithio caiff nifer o fusnesau bach eraill y cyfle i fanteisio ar fath gynllun mewn amser i ddod hefyd!

Published by Mwydro

Illustrator and GIF Artist

Leave a Reply

%d bloggers like this: