Straeon Instagram – Trafod Mythiau

Haia, Lois ‘dw i, Cynorthwyydd Creadigol Mwydro a dyma fy mlog cyntaf i!

Erbyn hyn, love it or hate it, mae’r mwyafrif ohonom ni’n gyfarwydd efo ‘Instagram Stories’ ers iddynt eu cyflwyno yn ôl yn 2017. I’r rhai sydd ddim – mae ‘Instagram Stories’ yn nodwedd o ap Instagram sy’n galluogi defnyddwyr i bostio lluniau neu fideos sy’n diflannu yn awtomatig ar ôl 24 awr. Mae’r straeon yma yn cael eu gosod mewn fformat fertigol ac maent yn gyflym, yn gofiadwy a’n hwyl i’w dylunio.

Mae’r nodwedd yma o Instagram yn gynyddol i’w weld yn apelio at ddefnyddwyr, gan gynnwys cyfrifon busnes. Yn ddiweddar, mae Instagram wedi gweld twf yn nifer y cyfrifon busnes yma, wrth i’r Ap gynnig platfform sy’n ddeiniadol ar gyfer ffyniant busnes (yn enwedig ers cyfnodau clo Cofid!). Gellir dadlau bod ‘Instagram Stories’ yn chwarae rôl bwysig yn y ffyniant yma, gan fod y nodwedd yn gyfle i ddatblygu teyrngarwch a chynyddu ymgysylltiad rhwng defnyddwyr a’r cyfrif sydd dan sylw.

Mae’n siwr bod eich dilynwyr yn mwynhau cynnwys eich cyfrif yn barod.. ond gall Instagram ddatblygu hyn yn bellach – wrth i chi rannu cynnwys realistig, ‘relatable’ a diddorol trwy gyfres o straeon. Yn y pendraw, bydd hyn yn annog y dilynwyr i ddychwelyd i’ch cyfrif ac i ymateb i’ch cynnwys.

Fodd bynnag, er bod y straeon yma yn cynnig cyfle arbennig i gyfrifon Instagram i ffynnu ac i ddatblygu ymdeimlad o gymuned, mae sawl myth ynghlwm â’r ffenomen. Felly, beth yw’r mythiau yma a pam eu bod nhw’n ffug?

1. Defnydd gorau straeon yw i ddenu dilynwyr newydd – FFUG

Eich dilynwyr presennol sydd yn fwyaf tebygol o wylio’ch straeon chi, ac felly mae straeon yn fodd effeithiol iawn o feithrin ymdeimlad o gymuned i’ch cyfrif. Felly, gwnewch yn siwr i ddiddanu eich dilynwyr presennol trwy’ch straeon. I ychwanegu – wrth i gyfrif newydd eich dilyn, maen nhw’n fwy tebygol o edrych trwy’ch ‘highlights’, felly sicrhewch eu bod nhw’n llawn o wybodaeth sy’n esbonio’n glir pwy ydych chi a beth ‘da chi’n ei wneud!

2. ‘Da chi angen postio straeon yn ddyddiol – FFUG

Mae algorithm Instagram, mewn gwirionedd, yn hoffi pan ‘da chi’n cael toriad 24+ awr rhwng eich straeon – mae hyn yn helpu i wthio’ch stori i’r top (yn enwedig os ydi o’n llun gyda sticer). ‘Dw i’n licio’r dywediad “quality not quantity” yn yr enghraifft yma!

Rhowch eich hun yn ‘sgidiau eich dilynwyr – beth ‘da chi’n hoffi gweld yn straeon eich hoff gyfrifon?

3. Mae rhaid rhannu pob elfen o’ch bywyd ar straeon – FFUG

Rhannwch beth ‘da chi’n gyfforddus gyda’n unig. Does dim angen rhannu eich holl amserlen! I ychwanegu, mae’n gallu bod yn dda i gadw eich dilynwyr “on their toes” – ‘da chi eisiau nhw i fod yn gyffrous wrth weld eich bod chi wedi postio cyfres o straeon, ac mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd os ‘da chi ddim yn postio pob eiliad!

Os ydych chi’n gyfforddus yn ffilmio eich hun, gallwch wneud fideo sy’n trafod eich cynnyrch. Er hyn, mae’n arfer dda i glymu’ch personoliaeth mewn i’ch cyfrif, peidiwch â bod ofn trafod eich diddordebau tu allan i’ch busnes neu unrhyw beth cyffrous sydd ar eich calendr! ‘Dw i’n hoffi dilyn cyfrif Glosters am y math yma o gynnwys.

Felly, beth nesaf?

Wel, cofiwch bod Sioned yn rhedeg gweithdai am bynciau sy’n ymwneud â Instagram yn reolaidd – os ydych yn berchen busnes neu jyst yn mwynhau dysgu am y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, mae croeso i unrhyw un ymuno!

Lois

Wedi mwynhau’r blog? Beth am ddarllen un arall?

Gwarchod Enwau Lleoedd Cymraeg… un GIF ar y tro.

Dyna’r gobaith gan Sioned Young o Gaernarfon, sylfaenydd cwmni darlunio digidol Mwydro, gyda’i phrosiect newydd #HacYGymraeg. O fewn ei phrosiect, mae Sioned yn cydweithio gyda disgyblion uwchradd a chynradd Gogledd Cymru i ddylunio a hyrwyddo cyfres o sticeri GIFs Enwau Lleoedd Cymraeg. Mae sticeri GIFs yn ddelweddau wedi’i animeiddio a gellir eu defnyddio ar amryw…

Protecting Welsh Place-Names … one GIF at a time

That’s Sioned Young from Caernarfon’s aim with her new #HacYGymraeg (Welsh Language Hack) project. Within her project, run through her digital illustration business Mwydro, Sioned will be working with primary and secondary school pupils to design and promote a series of Welsh Language Place-Name GIF Stickers. GIF Stickers are animated images that can be used…

Mwydro yn Gŵyl Fwyd Caernarfon

Dwi’n falch o rannu mai am y tro cyntaf bydd gan Mwydro stondin yn Gŵyl Fwyd Caernarfon eleni. Bydd yr ŵyl, sy’n cael ei gynnal am y chweched flwyddyn, yn digwydd ar Ddydd Sadwrn y 13eg o Fai o 10yb i 5yh. Bydd stondin Mwydro ar y Promenade yn wynebu’r aber. Diwrnod gwerth chweil Rhaid…

One thought on “Straeon Instagram – Trafod Mythiau

Leave a Reply

English (UK)
%d bloggers like this: