Mae’r entrepreneur creadigol o Gaernarfon, Sioned Young, yn dathlu lansiad ei phodlediad busnes Cymraeg newydd sbon ‘Mwydro am Fusnes‘ heddiw i gyd-fynd â Wythnos Busnes Gwynedd, digwyddiad gan Cyngor Gwyned sy’n rhoi cyfle i fusnesau ledled y sir ddod at ei gilydd i gysylltu, dysgu a thyfu.
Gofod newydd ar gyfer sgyrsiau busnes
Bydd Mwydro am Fusnes yn cynnig gofod newydd, hygyrch a hwyl ar gyfer sgyrsiau busnes yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg – gan fynd i’r afael â bwlch yn y farchnad ar gyfer podlediadau busnes yn yr iaith. Bydd penodau yn cael eu rhyddhau bob yn ail wythnos, gan ddechrau gyda phenodau unigol cyn cyflwyno cyfweliadau gyda pherchnogion busnes Cymraeg yn gynnar yn 2026.
Mae’r bennod gyntaf, “Sut i ennill gwobrau busnes” yn tynnu ar brofiad a llwyddiant Sioned ei hun fel Gweithiwr Llawrydd Ifanc y Flwyddyn IPSE, derbynnydd gwobr Gweledigaeth Ddigidol Gogledd Creadigol ac enillydd Small Business Sunday Theo Paphitis. Mae’r bennod yn archwilio tipiau ymarferol a mewnwelediadau i fusnesau bach sy’n anelu at gael cydnabyddiaeth trwy wobrau.



Yn y bennod gyntaf mae Sioned yn rhannu ei phrofiadau a gwersi o ennill tair gwobr busnes yn y chwe blynedd o redeg ei busnes Mwydro
“Rwy’n ffan fawr o bodlediadau busnes ac yn eu gweld yn ffordd wych o gael fy ysbrydoli a’n haddysgu mewn ffordd hwyl a hygyrch. Ers sbel rydw i wedi bod eisiau podlediad busnes yn fy iaith frodorol felly dyma fi’n meddwl pam lai rhoi cynnig ar lenwi’r bwlch hwnnw yn y farchnad fy hun.” meddai Sioned Young, sylfaenydd Mwydro.
“Dwi hefyd wrth fy modd yn clywed straeon ysbrydoledig berchnogion busnesau bach yng Nghymru sydd wedi adeiladu busnesau anhygoel drwy’r Gymraeg a fedrai ddim aros i roi llwyfan iddynt rannu eu straeon a’u mewnwelediadau drwy Mwydro am Fusnes.“
Bydd pob pennod o Mwydro am Fusnes yn archwilio themâu fel entrepreneuriaeth, creadigrwydd, marchnata ac arloesi – gan ddathlu lleisiau busnes Cymru a meithrin cymuned drwy’r Gymraeg.