Mwydro yn nodi Wythnos Busnes Gwynedd gyda lansiad podlediad busnes Cymraeg newydd sbon.

Mae’r bennod gyntaf, Sut i ennill gwobrau busnes yn tynnu ar brofiad a llwyddiant Sioned ei hun fel Gweithiwr Llawrydd Ifanc y Flwyddyn IPSE, derbynnydd gwobr Gweledigaeth Ddigidol Gogledd Creadigol ac enillydd Small Business Sunday Theo Paphitis. Mae’r bennod yn archwilio tipiau ymarferol a mewnwelediadau i fusnesau bach sy’n anelu at gael cydnabyddiaeth trwy wobrau.

Rwy’n ffan fawr o bodlediadau busnes ac yn eu gweld yn ffordd wych o gael fy ysbrydoli a’n haddysgu mewn ffordd hwyl a hygyrch. Ers sbel rydw i wedi bod eisiau podlediad busnes yn fy iaith frodorol felly dyma fi’n meddwl pam lai rhoi cynnig ar lenwi’r bwlch hwnnw yn y farchnad fy hun.” meddai Sioned Young, sylfaenydd Mwydro.

Dwi hefyd wrth fy modd yn clywed straeon ysbrydoledig berchnogion busnesau bach yng Nghymru sydd wedi adeiladu busnesau anhygoel drwy’r Gymraeg a fedrai ddim aros i roi llwyfan iddynt rannu eu straeon a’u mewnwelediadau drwy Mwydro am Fusnes.

Bydd pob pennod o Mwydro am Fusnes yn archwilio themâu fel entrepreneuriaeth, creadigrwydd, marchnata ac arloesi – gan ddathlu lleisiau busnes Cymru a meithrin cymuned drwy’r Gymraeg.

Published by Mwydro

Illustrator and GIF Artist

Leave a Reply

English (UK)

Discover more from mwydro

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading