Tymor newydd o Gweithdai GIFs i Ysgolion

Mae heddiw’n nodi diwrnod cyffrous, wrth i’r llyfr archebion ar gyfer tymor yr hydref o Gweithdai GIFs i Ysgolion Mwydro agor yn swyddogol.

Ers dros flwyddyn mae’r cwmni darlunio digidol o Gaernarfon, Mwydro, wedi bod yn teithio i bron i 100 o ysgolion hyd a lled Cymru i ddod a’r iaith Gymraeg, Hanes a Thechnoleg Gwybodaeth ynghyd mewn un gweithdy hwyl a rhyngweithiol.

Mae’r gweithdai, wedi eu anelu at ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6, yn cynnig y cyfle i ddisgyblion dathlu eu iaith a’u milltir sgwâr drwy ddylunio GIF o Enw Lle Cymraeg o’u dewis a bydd wedyn yn cael ei osod yn y bar chwilio GIFs cyhoeddus i bawb ddefnyddio ar Instagram, Snapchat, TikTok, WhatsApp a mwy.

Mae’r prosiect yn un sy’n gweddu’n gryf gyda’r thema drawsgwricwlaidd o’r Cwricwlwm i Gymru o gyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a’n cynnig cyfle cyffrous i ddysgu sgil newydd oll o fewn sesiwn dwy awr hwyl.

Darperir y gweithdai drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu’n Ddwyieithog ym mhob rhan o Gymru. Gellir cynnal gweithdai mewn person i ysgolion yn Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy, neu’n rhithiol i ardaloedd tu hwnt i’r rheiny.

Dros dymor yr haf eleni bu Mwydro’n gweithio ar y cyd gyda Cyngor Sir Penfro i ddarparu Gweithdai GIFs rhithiol i bob ysgol yn y sir. Dywed Catrin Phillips, Swyddog Datblygu’r Gymraeg. Cyngor Sir Penfro;

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu sesiwn, cysylltwch ar info@mwydro.com

Cyhoeddwyd gan Mwydro

Illustrator and GIF Artist

Un sylw ar “Tymor newydd o Gweithdai GIFs i Ysgolion

Leave a Reply

Cymraeg

Discover more from mwydro

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading