Dyna’r gobaith gan Sioned Young o Gaernarfon, sylfaenydd cwmni darlunio digidol Mwydro, gyda’i phrosiect newydd #HacYGymraeg. O fewn ei phrosiect, mae Sioned yn cydweithio gyda disgyblion uwchradd a chynradd Gogledd Cymru i ddylunio a hyrwyddo cyfres o sticeri GIFs Enwau Lleoedd Cymraeg.
Mae sticeri GIFs yn ddelweddau wedi’i animeiddio a gellir eu defnyddio ar amryw o blatfformau gan gynnwys Instagram, TikTok a Snapchat. Ble mae Sioned yn gyfrifol am ddylunio dros 400 o GIFs iaith Gymraeg o fewn ei busnes, mae bwlch dal yn parhau o ran y nifer o GIFs Enwau Lleoedd Cymraeg sydd ar gael i bawb ddefnyddio.
“Dwi wedi creu ambell i GIF Enwau Lleoedd o lefydd dwi’n ymweld ag yn aml fel Caernarfon a Llanberis, ond oeddwn i’n meddwl y byddai’n wych i gael cydweithio gyda disgyblion ysgol a rhoi’r cyfle iddynt ddylunio GIFs eu hunain o Enwau Lleoedd Cymraeg yn eu hardal nhw,” meddai Sioned.


Gyda’r newyddion diweddar o Eryri a’r Bannau Brycheiniog yn dewis dynwared a’u henwau Saesneg, mae’r drafodaeth am bwysigrwydd Enwau Lleoedd Cymraeg yn fwy perthnasol nac erioed.
Mae’r prosiect yn un sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy’r #HacYGymraeg, cafodd ei gynnal gan M-SParc, sydd hefyd wedi cynnig cefnogaeth i enillwyr yr Hac. Llynedd bu Sioned yn llwyddiannus mewn sicrhau’r grant wedi iddi hi bitsio gyda’i syniad o brosiect oedd yn cyrraedd y briff o ddefnyddio technoleg i gynyddu defnydd o’r iaith Gymraeg.
Gyda’r 400 o GIFs iaith Gymraeg mae Sioned eisoes wedi eu creu wedi cael eu gweld dros 120 miliwn o weithiau, fe wnaeth hi adnabod y cyfle i adeiladu ar eu poblogrwydd i ddatblygu’r prosiect newydd hwn.
Dywedai Sioned, “Mae’r gweithdai hefyd yn rhoi’r cyfle i addysgu disgyblion am bwysigrwydd defnyddio a gwarchod Enwau Lleoedd Cymraeg a hanes enwau penodol o fewn eu hardal. Mae’r wybodaeth yno wedyn yn cael ei ddefnyddio yn yr ail weithdy ble mae’r bobl ifanc yn cael y cyfle i gynhyrchu fideos i gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r Enwau Lleoedd gan gynnwys eu hystyr, ynganiad, a phwysigrwydd eu defnyddio.”

Dau o’r sawl GIF Enwau Lleoedd Cymraeg sydd wedi eu dylunio gan bobl ifanc o fewn gweithdai #HacYGymraeg Mwydro.
Dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae’n bwysig i bobl gael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg ble bynnag maen nhw’n cyfathrebu, hyd yn oed yn y byd digidol. Mae hybu enwau lleoedd yn y Gymraeg yn flaenoriaeth i ni fel llywodraeth, a dwi’n croesawu’r fenter werthfawr yma.”
O fewn datblygiad y prosiect bu Sioned yn gweithio’n agos gyda Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Menter Iaith Môn a Swyddfa’r Comisiynydd y Gymraeg er mwyn casglu gwybodaeth ar Enwau Lleoedd i’w rannu gyda’r disgyblion.
Yn ei chynorthwyo o fewn y gweithdai bydd merch ifanc o Ynys Môn, y cerddor Tesni Hughes.
Meddai Sioned, “Dwi’n gwybod pa mor anodd yw hi ar gychwyn dy yrfa a chael profiadau o werth, felly oeddwn i’n awyddus bod y prosiect hefyd yn rhoi’r cyfle i mi gyflogi a rhoi profiad gwerthfawr yn y maes gwaith, a chynnig mentora, i berson ifanc lleol.”

Sioned Young, sylfaenydd Mwydro (dde) a’i Chynorthwyydd, Tesni Hughes (chwith)
“Dwi’n gefnogol iawn o brosiectau fel Llwyddo’n Lleol sy’n ceisio annog pobl ifanc i aros a datblygu gyrfa o fewn eu hardal leol yn hytrach na symud i ffwrdd. Dwi’n meddwl bod yno le gan y ni fel cyflogwyr yr ardal i sicrhau bod hynny’n bosib drwy gynnig cyfleoedd cyflogaeth o werth i’m pobl ifanc.”
Fe gychwynnir y rhaglen o weithdai ym mis Mawrth, a byddant yn rhedeg mewn amryw o ysgolion a cholegau tan ddiwedd tymor yr haf, gyda toolkit o’r prosiect yn cael ei baratoi ar y diwedd.
DIWEDD
Am luniau neu ragor o wybodaeth cysylltwch â Sioned Young ar info@mwydro.com