Mwydro yn Gŵyl Fwyd Caernarfon

Dwi’n falch o rannu mai am y tro cyntaf bydd gan Mwydro stondin yn Gŵyl Fwyd Caernarfon eleni.

Bydd yr ŵyl, sy’n cael ei gynnal am y chweched flwyddyn, yn digwydd ar Ddydd Sadwrn y 13eg o Fai o 10yb i 5yh. Bydd stondin Mwydro ar y Promenade yn wynebu’r aber.

Diwrnod gwerth chweil

Rhaid cyfaddef, Gŵyl Fwyd Caernarfon yw fy hoff ddigwyddiad o’r flwyddyn, felly dwi’n gyffrous iawn i gael stondin yno. Mi fyddai yng nghwmni dros 150 o stondinau eraill felly dwi’n siŵr bydd hi’n ddiwrnod gwerth chweil!

Cynnyrch Newydd

Ar fy stondin byddaf yn gwerthu detholiad eang o fy nghynnyrch gan gynnwys Sticeri Iaith Gymraeg, Printiau, a dros 25 gwahanol fath o Gardiau Cyfarch.

Byddwn hefyd yn serennu cynnyrch newydd sbon yn y ffair. Am gipolwg o beth fydd y cynnyrch newydd, byddwch yn siŵr o gadw llygaid ar fy nghyfrif Instagram.

Ydych chi am fod yn Gŵyl Fwyd Caernarfon eleni? Rhowch wybod i mi yn y sylwadau.

Cyhoeddwyd gan Mwydro

Illustrator and GIF Artist

Leave a Reply

Cymraeg
%d bloggers like this: