Marathon GIFs Cymraeg i ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae

I ddathlu diwrnod Shwmae Su’mae eleni ar y 15fed o Hydref, mi fydd cwmni darlunio digidol Mwydro yn ymgymryd â Marathon Dylunio GIFs Cymraeg byw ar ei sianel Instagram. Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle unigryw i’r cyhoedd dewis a dethol pa eiriau a dywediadau Cymraeg hoffent weld ar ffurf GIF i gyfryngau cymdeithasol, a gweld y dylunydd yn eu creu yn y fan a’r lle.

I’r rheiny sy’n ddefnyddwyr brwd sianeli cyfryngau cymdeithasol mae hi’n bosib iawn eich bod eisoes  yn gyfarwydd â gwaith y darlunydd Sioned Young sy’n rhedeg cwmni Mwydro o’i chartref yng Nghaernarfon. Mwydro yw’r crëwr o dros 250 o’r GIFs iaith Cymraeg a gellir ei ddefnyddio am ddim ar blatfformau megis Instagram, TikTok a Snapchat.

Erbyn heddiw, mae detholiad o GIFs Cymraeg Mwydro sy’n amrywio o ddiwrnodau’r wythnos i ddywediadau a diarhebion poblogaidd wedi cael dros 35 miliwn o wylwyr. A thrwy help ei dilynwyr mae casgliad o GIFs sydd wedi’i arlunio gan Sioned Young wedi’i ddatblygu:

“Mi ddysgais fy hun sut i ddylunio GIFs rhyw flwyddyn yn ôl, ar ôl cael trafferth dod o hyd i GIFs iaith Cymraeg i mi allu defnyddio ar fy ‘Stories’ Instagram,” meddai Sioned, “Unwaith i mi rannu fy nyluniadau cychwynnol, dyma fi’n derbyn llu o geisiadau am ragor o eiriau a dywediadau Cymraeg hoffai pobl weld ar ffurf GIFs.”

Mae diwrnod Shwmae Su’mae, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol ar Hydref y 15fed yn annog pawb i roi cynnig ar y Gymraeg drwy ddechrau sgyrsiau gyda ‘Shwmae’ neu ‘Su’mae’. Ar gyfer dathlu’r diwrnod mae’r trefnwyr, Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, yn annog pawb i fynychu digwyddiad i gael blas ar ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol yn eu hardal nhw.

“Dwi’n falch iawn o allu cynnal digwyddiad fel rhan o ddathliadau Shwmae Su’mae eleni.” meddai Sioned, “Yn wreiddiol oeddwn i’n meddwl mai’r unig bwrpas am GIFs oedd er mwyn cael hwyl, ond yn fuan iawn dwi wedi dysgu gwerth GIFs mewn dathlu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, ac mewn helpu ac ysgogi pobl i gyflwyno rhywfaint o Gymraeg i’w cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.”

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn fyw ar sianel Instagram Mwydro ar Ddydd Gwener y 15fed o Hydref rhwng 8-9pm, gyda chroeso cynnes i bawb ymuno.

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Sioned Young ar info@mwydro.com

Published by Mwydro

Illustrator and GIF Artist

Leave a Reply

English (UK)
%d bloggers like this: