Enillydd Gwobr IPSE - Gweithiwr Llawrydd Ifanc y Flwyddyn 2023

Dylunio GIFs

Edrych i ddod a rhywfaint o fywyd a chymeriad i'ch marchnata? Beth am fuddsoddi mewn Sticeri GIFs wedi'i bersonoli i'ch busnes?

Mae Mwydro yn barod i helpu!

Gyda rhestr hir o gwsmeriaid hapus yn amrywio o fusnesau bach i wyliau a phlatfformau newyddion, gall gwasanaeth GIFs wedi personoli gan Mwydro fod yr union beth i wneud i'ch marchnata sefyll allan o'r dorf ar lein.

Rhai o fy nghwsmeriaid GIFs hyfryd!

#HacYGymraeg - Gweithdai GIFs mewn Ysgolion

Yn o gystal รข dylunio GIFs, dwi hefyd yn rhedeg gweithdai GIFs mewn ysgolion hyd a lled Cymru.

Mae fy ngweithdai yn canolbwyntio ar arwain disgyblion i ddylunio GIFs Enwau Lleoedd Cymraeg eu hunain, er mwyn helpu rhoi eu hiaith a'u treftadaeth ar y map digidol!

Gall gweithdai cael eu rhedeg mewn person neu'n rhithiol ac maen nhw'n ffordd wych o gyfuno hanes, yr iaith Gymraeg, a thechnoleg gwybodaeth i mewn i un sesiwn hwyl a gwybodus.

Cynnyrch

Cynnyrch iaith Gymraeg, llachar a lliwgar sy'n dal sylw

Mae gan Mwydro casgliad lawn o gynnyrch Iaith Gymraeg, yn amrywio o Gardiau Cyfarch at bob achlysur i Daflenni Sticeri a Phadiau Nodiadau.

Tanysgrifiwch i newyddlen Mwydro y Mwydro Mail, in your inboxes every two weeks with all the latest news, updates and GIF Top Tips!

Cysylltwch!

Gyda chwestiwn? Awyddus i fy nghael i draw i arwain gweithdy neu werthu fy nghynnyrch o fewn eich siop?

Cysylltwch drwy e-bostio info@mwydro.com i dderbyn ateb i'ch ymholiad neu gopi o'm nghatalog masnach.

Cymraeg