Top Tips (Cymraeg)!

I weld y dudalen yma yn Saesneg, cliciwch yma.

Ydych chi’n barod i fuddsoddi mewn GIFs ond ddim yn siwr beth i’w gael? Gadewch i Mwydro helpu!

I sicrhau eich bod chi’n buddsoddi mewn GIFs sy’n berffaith i’ch busnes chi, mae Mwydro wedi llunio rhestr o dips defnyddiol i’ch helpu ar hyd y ffordd. Unwaith rydych yn barod i osod eich archeb cliciwch yma i lenwi y Ffurflen Ymholiad GIFs, neu anfonwch ebost at Mwydro!

Yr Hanfodion

Gair neu ymadrodd o’ch dewis chi mewn steil, ffont a logo eich brand.

Darganfyddwch enghreifftiau pellach a phrisiau drwy glicio yma.

GIF Slogan

Gair neu ymadrodd o’ch dewis chi mewn steil, ffont a logo eich brand.

Enghraifft o GIF Slogan ar gyfer Sbarduno

GIF Logo

GIF o logo eich brand wedi’i animeiddio.

Enghraifft o GIF Logo ar gyfer Siop Manon

GIF Cymeriad

Cymeriad Cartwn wedi’i animeiddio i symudiad o’ch dewis chi, yn gwisgo crys-t wedi’i frandio.

Enghraifft o GIF ar gyfer Tarian

GIF Cynnyrch

Eich cynnyrch, wedi’i drawsnewid i GIF atyniadol wedi’i animeiddio

Enghraifft o GIF ar gyfer Lora Wyn

Gwelwch isod ar gyfer mwy o top tips ar sut i ddewis y GIF sy’n berffaith ar gyfer eich brand.

Gofynwch i’r Gynulleidfa

Os ydych chi’n gymwys i gael eich GIFs yn y bar chwilio cyhoeddus i bawb ddefnyddio, mae’n bwysig i ystyried y math o GIFs o’ch brand bydd eich cynulleidfa yn mwynhau eu defnyddio.

Felly, pam ddim eu cynnwys nhw yn y broses!? Gallwch gysylltu gyda nhw dros e-bost, neu roi pleidlais neu focs Q&A fyny ar eich straeon Instagram. Y ffordd yma fe gewch chi syniadau gwych, cynnydd mewn ymgysylltiad a bydd eich cynulleidfa yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a’u gweld gennych chi!

Gofynnwch wrth eich Tîm

Yn debyg i’r pwynt uchod, yn aml y rhai sy’n agos at eich brand bydd gan y syniadau gorau o pa fath o GIFs byddai’n fwyaf addas ar eich cyfer. Felly pam ddim holi eich tîm am eu syniadau? Os mai dim ond chi sy’n gweithio i’ch busnes, holwch eich ffrindiau a’ch teulu sy’n adnabod y busnes.

Gall gofyn i’ch tîm i ddod fyny â syniadau GIFs fod yn weithgaredd adeiladu tîm gwych, yn ogystal â helpu aelodau tîm ddarganfod eu creadigrwydd.

Darganfyddwch y Gap!

Os ydych chi’n edrych i gael eich GIFs yn y bar chwilio cyhoeddus mae’n syniad da i edrych ar beth sydd allan yno’n barod yn nhermau GIFs yn eich diwydiant.

Oes yno unrhyw eiriau neu ymadroddion sy’n gysylltiedig â’ch diwydiant sydd ddim yn bodoli fel GIFs eto? Gall hyn fod y cyfle perffaith i lenwi’r gap! Yn y dyfodol, pan fydd rhywun yn chwilio am GIF yn yr ymadrodd neu’r gair yna dim ond eich GIF chi fydd yno i’w ddewis, ac felly bydd eich GIF yn cael ei ddefnyddio a’n hyrwyddo eich busnes am ddim!

Mae GIFs Cymraeg yn benodol yn eithaf cyfyngiedig, felly os gallwch chi ddarganfod unrhyw eiriau neu ymadroddion sydd ddim gyda GIF mae’n gyfle i rhoi eich brand yno yn gyntaf cyn eich cystadleuaeth.

Beth yw’r Weithred?

Cwestiwn da i ofyn i’ch hun yw pa weithred ydych chi eisiau i’ch cynulleidfa i gymryd?

Ymweld â’ch gwefan?

Archebu apwyntiad?

Ymuno â’ch aelodaeth?

Darllen eich blog?

Gall yr holl bethau yma eu trawsnewid i GIFs galw i weithredu, gan annog eich cynulleidfa i fod yn fwy na gwylwyr. Gall nod o gael rhywun i archebu apwyntiad gael ei newid i GIF ‘Archebwch Nawr!, wedi’i baru â steil, ffont a logo eich brand.

Syniadau Cyflym!

Os ydych chi eisiau… rhannu y person tu ôl i’r busnes
Beth am… GIF Cymeriad cyfeillgar?

Os ydych chi eisiau… Dangos cynnyrch newydd
Beth am… GIF Cynnyrch wedi’i animeiddio?

Os ydych chi eisiau… rhannu ymadrodd sy’n gysylltiedig â’ch brand
Beth am… GIF Slogan wedi’i frandio?

Os ydych chi eisiau… gwneud i bobl gofio eich brand
Beth amGIF Logo hwyl?

Wedi gwneud eich meddwl i fyny?

Cliciwch yma i lenwi a chyflwyno eich ffurflen gais am GIF Mwydro. Neu cysylltwch gyda ni ar info@mwydro.com am unrhyw ymholiadau.

A byddwch yn siwr o glicio yma i weld mwy o enghreifftiau a phrisau.

Edrych ymlaen i glywed ganddo chi yn fuan!
Mwydro

English (UK)
%d bloggers like this: