

Helo, Sioned ydw i
Darlunydd Digidol a Sylfaenydd Mwydro.
Wedi fy lleoli yng Nghaernarfon, Cymru, dwi’n arbenigo mewn darluniau digidol steil cartŵn llawen a lliwgar. Dwi wrth fy modd yn creu pecynnau o GIFs wedi eu personoli i fusnesau o bob maint.
Fy nghenhadaeth yw darparu busnesau gyda’r adnoddau i sefyll allan o’r dorf ar-lein. Gall hynn fod drwy fy ngwasanaeth GIFs, Darlunio Arwyneb, neu Weithdai
Fy Nghleientiaid

GIFs wedi eu personoli
Erioed wedi meddwl pa mor cŵl fyddai i gael GIFs yn steil dy frand i’w ddefnyddio ar gyfryngau cymdeithasol? Gall Mwydro helpu gyda’n union hynny!
Gyda rhestr hir o gwsmeriaid hapus yn amrywio o berchnogion busnesau bach i ddigwyddiadau a safleoedd newyddion, gall gwasanaeth GIFs Mwydro fod yr union beth i wneud i’ch marchnata sefyll allan o’r dorf ar-lein.

Darlunio Arwyneb
Mae’n hefyd posib comisiynu Mwydro i greu darluniau digidol personol i’ch busnes.
Dwi’n arbenigo mewn Darlunio Arwyneb (surface design), ac wedi creu darluniadau digidol i’w gynnwys ar gynnyrch i gwmnïau megis Clyd, Silver Cuddles, Pethau Pert a Dwdl Designs.

Cofrestrwch i fy Newyddlen!
Eisiau bod y gyntaf i wybod am fy nghynigion arbennig, newyddion a lansiadau?
Cliciwch y linc isod i danysgrifio i’r Mwydro Mail.
Cysylltwch
Gyda chwestiwn neu’n awyddus i archebu GIFs? Cysylltwch!
- info@mwydro.com
- Neu beth am ddilyn Mwydro ar Facebook, Instagram a Twitter
Rydw i’n siarad Cymraeg / I speak Welsh