GWASANAETHAU

Erioed wedi meddwl y byddai’n cŵl i gael GIFs unigryw eich hunain i ddefnyddio ar Gyfryngau Cymdeithasol? Mae Mwydro yn falch o fod yn enw sefydledig yn y maes o ddylunio GIFs wedi’i bersonol, gyda fy GIFs ar gyfer defnydd cyhoeddus wedi cael dros 40 miliwn o edrychiadau. Dwi hefyd yn falch o fod wedi gweithio gyda llu o fusnesau o bob maint o helpu adeiladu eu brand yn defnyddio GIFs, gyda chleientiaid yn cynnwys Lora Wyn, Bro360, Coed Y Ddraig, Tafwyl, YesCymru, Si Lwli a llawer mwy!

Cliciwch yma i weld esiamplau o fy ngwaith dylunio GIFs i fusnesau!

Scroliwch i lawr i ddysgu mwy am becynnau GIFs a gwaith comisiwn. Mae croeso i gleientiaid dewis un o’r pecynnau isod, neu adeiladu un eu hunain.

Cymhwystra GIFs (Eligibility)

I fod yn gymwys ar gyfer gwasanaeth GIFs Mwydro, mae angen i gleientiaid cael o leiaf un o’r canlynol:

1. Dyfais Apple (iPhone/iPad)

NEU

2. Gwefan a Chyfeiriad E-bost Gwreiddiol
(e.e. http://www.mwydro.com & info@mwydro.com)

Am wybodaeth bellach am gymhwystra, ewch i’m nhudalen Cwestiynnau.

1. Pecyn GIFs Dechreuwyr

Perffaith ar gyfercychwyn gyda GIFs a rhoi enw eich brand allan yno! Gwnewch i’ch cynnyrch sefyll allan ac i’ch cwsmeriaid cymryd sylw!

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys:

  • 1 GIF o’ch Logo
  • 2 GIF o ddelweddau o’ch cynnyrch*
  • Canllaw Fideo ar sut i ddefnyddio eich GIFs

Mae’r pecyn hwn wedi’i brisio am £45

*Gellir cael cynnyrch wedi’i arlunio fel delweddau cartwn am ffi ychwanegol.


2. Pecyn Cymeriadau GIFs

Perffaith ar gyfer … dathlu personoliaeth y busnes a’r person tu ôl i’ch busnes.

Dewisiwch o:

  • 1 Symudiad: £30
  • 3 Symudiad: £65
  • 5 Symudiad: £100

Mae cymeriadau’n cael eu harlunio gyda llaw er mwyn creu delwedd realistig o’r unigolyn.

Dewiswch o unrhyw un o’r symudiadau canlynol:

  • Yn Gweithio
  • Bodiau i Fyny
  • Pwyntio i Fyny
  • Chwifio 1 Llaw
  • Hysbysfwrdd
  • Thematig
  • Chwifio 2 Llaw
  • Cyffrous
  • Symbol Heddwch

3. Seren yr Insta-Straeon

Perffaith ar gyfer… gwneud i’ch Insta Stories ffitio gydag eich brand ac edrych yn broffesiynol.

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys:

  • 1 GIF Cymeriad
  • 1 GIF Logo
  • 1 GIF Slogan
  • 4 Templed Insta Story wedi’i frandio

Cost y pecyn yma yw £70


4. Adeiladu Pecyn eich Hunain

Perffaith ar gyfer… Ymsolido eich hunaniaeth brand ar gyfer bod yn gwbl broffesiynol

Dewisiwch o:

  • 5 GIF: Prisiau’n cychwyn o £75
  • 10 GIF: Prisiau’n cychwyn o £140

Ar gyfer dyfynbris llawn a chywir, cysylltwch gyda chrynodeb o’ch syniadau, neu i drefnu galwad Zoom/WhatsApp i ddysgu mwy am wasanaeth GIFs Mwydro.

Gwaith Dylunio Comisiwn

Mae Mwydro ar gael i’w gomisiynu i ddylunio logos, brandio a chynnyrch. Mi gallaf hefyd gynnal gweithdai a sgyrsiau ar wahanol destunau gan gynnwys creu GIFs, Entrepreneuriaeth a rheoli ‘Side-Hustle’

Dwi hefyd yn cynnig gwasanaeth dylunio llawrydd yn gweithio gyda busnesau ar ddarluniau a dyluniadau. Mae prisiau i gomisiynau’n amrywio yn dibynnu ar bris y prosiect, gyda ffi uwch am ddyluniadau a fydd yn cael eu hail-werthu fel cynnyrch i’r cleiant.

Mae croeso i chi holi am gomisiynau neu brisiau – cysylltwch yma neu ar e-bost i info@mwydro.com


GEIRDA

Gwasanaeth cyfeillgar a proffesiynol iawn. Wir wedi mwynhau y broses ac
yn dal i fwynhau defnyddio’r GIFs. Diolch yn fawr Mwydro!
LORA WYN

Cynnyrch deniadol, gwasanaeth gwych.
BRO 360

Diolch o galon Sioned am y GIFs ar gyfer fy musnas bach.
Mor hawdd siarad efo chdi, a mae syniadau chdi’n fab!
GEMWAITH GAN ANEST

Gwasanaeth bendigedig bob tro.
COED Y DDRAIG

Geiriadur GIFs

Ansicr o rai o’r geiriau a thermau uchod? Gweler fy Ngeiriadur GIFs isod!

Mae hi hefyd yn bosib weld esiamplau draw ar dudalen GIFs

GIF LOGO
Eich logo, wedi’i animeiddio ar ffurf GIF. Gall logos cael eu hanimeiddio mewn amrywiaeth o ffyrdd.

GIF CYNNYRCH
Llun o’ch cynnyrch yn symud ar ffurf GIF. Gall hyn fod yn unrhyw fath o gynnyrch o emwaith i siwmper!

BAR CHWILIO GIFS CYHOEDDUS
Dyma’r tab gallwch ei ddefnyddio i chwilio am GIFs ar Instagram, TikTok a Snapchat, ar gael i unrhyw un cael mynediad i’r GIFs o bob cwr o’r byd.

GIF CYMERIAD
Chi, neu person o’ch dewis, wedi’i arlunio mewn steil cartwn a mewn symudiad o’ch dewis.

GIF SLOGAN
GIF mewn gair neu ddywediad o’ch dewis yn font, lliw a steil eich brand. Esiamplau’n cynnwys dywediadau, ‘Call to Action’, neu eiriau i ymateb (e.e. Caru Hwn, Cŵl, Sweipiwch i Fyny)

TEMPLED INSTA STORY
Dyma’r cefndir gallwch ei ddefnyddio o fewn Stories Instagram ble mae modd i chi ychwanegu testun a delweddau eich hunain iddo.

%d bloggers like this: