GIFs (Cymraeg)

I weld y dudalen yma yn Saesneg, cliciwch yma.

Ers 2020, mae Mwydro wedi datblygu i fod yn enw sefydledig mewn dylunio GIFs, gan helpu portffolio mawr o gleientiaid i sbeisio eu cyfryngau cymdeithasol i fyny gyda sticeri GIF wedi’u personoli.

Mae GIFs hwyl Cymraeg Mwydro wedi’u gwylio dros 80 miliwn o weithiau, ac mae gwasanaethau GIF Mwydro wedi helpu i eraill gyrraedd ymgysylltiadau yn y miliynau hefyd. Os ydych chi’n barod i sefyll allan o’r gynulleidfa ar gyfryngau cymdeithasol, edrychwch ar fy mhortffolio o waith isod, a cysylltwch i ddechrau eich taith GIF!

Pam buddsoddi mewn GIFs?

  • I siapio hunaniaeth eich brand a’ch presenoldeb ar-lein
  • Mae GIFs yn defnyddio geiriau allweddol sy’n gallu helpu’ch brand cael ei gyflwyno i gynulleidfaoedd newydd
  • Mae GIFs yn wych i ddenu sylw at alwadau gweithredu
  • Gall eich cleientiaid ddefnyddio eich GIFs i rannu ac hyrwyddo eich brand
  • Mae’n un fuddsoddiad sengl, sydd â gwerth am byth!

Ble gallaf ddefnyddio fy GIFs?

  • Ar sianeli cyfryngau cymdeithasol fel Instagram, Snapchat a TikTok
  • Yn llofnod eich e-bost, Trello a PayPal
  • Ar eich gwefan
  • Gall eu troi mewn i fideos i bostio ar Instagram, Facebook & Twitter

Prisio

Mae Mwydro yn cynnig pedwar prif fath o GIFs. Dyma rhestr prisiau ar gyfer 2023.

  • GIF Logo – o £20
  • GIF Cynnyrch – o £20
  • GIF Cymeriad – £50 am y GIF cyntaf, £30 yr un am GIF mewn unrhyw symudiad arall
  • GIF Slogan – £30 am y GIF cyntaf, £20 yr un am unrhyw slogan pellach

See below for further information on each GIF, including examples and best use.

Gyda diddordeb mewn GIFs ond ddim yn siwr beth i’w gael? Cymerwch olwg ar fy mhortffolio isod sydd llawn enghreifftiau! Neu ewch draw i dudalen Top Tips.

Cymeriadau GIF (£50*)

Gwasanaeth mwyaf poblogaidd Mwydro, cymeriadau wedi’u dylunio a’u animeiddio sy’n helpu i ddathlu perchnogion busnes mewn modd hwyl ac unigryw. Ydych chi’n ofn dangos eich wyneb ar gyfryngau cymdeithasol? Dyma’r amgen perffaith! Dewiswch unrhyw un o’r symudiadau isod, neu cysylltwch os oes gennych chi syniad eich hun!

1. Ar Waith (1)
6. Hysbysfwrdd
7. Cyffrous
10. Wyneb yn Unig
2. Arwydd Heddwch
5. Thematig/ Tymhorol
8. Dwylo Calon (1)
11. Dwylo Calon (2)
3. Bawd i Fyny
6. Dwylo i Fyny
9. Cyfryngau Cymdeithasol
12. Ar Waith (2)

GIFs Logo (o £20)

Gwnewch eich brand i sefyll allan ar-lein gyda GIF chwareus o logo eich brand wedi’i animeiddio. Ar gael mewn ystod eang o steiliau animeiddiad. Gwlewch isod am enghreifftiau.

Delweddau wedi’u Animeiddio (o £20)

Edrych am ffyrdd newydd o hyrwyddo eich cynnyrch ar-lein? Gall lluniau o gynnyrch eu trawsnewid i GIFs bachog mewn amryw o steiliau animeiddiad.

Darluniadau Wedi’u Animeiddio (£30*)

Nid yn unig y gall Mwydro animeiddio darluniadau presennol, mae hefyd modd i chi gael eich cynnyrch a’ch slogan wedi’u troi’n ddarluniadau unigryw i chi eu defnyddio fel delwedd llonydd a GIFs. Edrychwch ar yr enghreifftiau isod!

Diddordeb? Peidiwch a cymryd fy ngair i’n unig!

English (UK)
%d bloggers like this: