Siop

I weld y dudalen yn Saesneg, cliciwch yma.


Mae cynnyrch yn ôl i Mwydro i 2023! Edrychwch ar fy nghasgliad newydd o Gardiau Cyfarch Cymraeg, Printiau a Thaflenni Sticeri.

Maen nhw oll ar gael i’w archebu o fy Siop Etsy. Neu, cysylltwch os hoffech stocio fy nghynnyrch o fewn eich siop.

Cardiau Cyfarch Cymraeg

Dwi’n dychwelyd i’m gwreiddiau a’n dod a Chardiau Cyfarch yn ôl i Mwydro!

Tro yma maen nhw’n well na erioed! Wedi eu dylunio gyda llaw gennyf i ar fy iPad, wedi’i brintio’n broffesiynol ac wedyn eu pacio’n ddiogel gydag amlen Kraft a llawes cellophane.

Sticeri Cymraeg

Wedi ysbrydoli o fy nghasgliad o sticeri digidol fel GIFs, dw i wedi dylunio casgliad daflenni sticeri Cymraeg mewn sawl gwahanol thema.

Mae themâu yn amrywio o hunanofal i Ffermio i Ddysgu Cymraeg a’n berffaith ar gyfer dyddiaduron, llyfrau ysgol a mwy. Perffaith fel anrheg i ffrind neu i’ch hunain.

Printiau Personol

Yn rhannu’r un patrwm lliwgar a llawen o’m cardiau cyfarch, gall fy nghasgliad o brintiau A4 cael eu personoli gydag unrhyw destun o’ch dewis!

MASNACH 😊

Stocio fy Nghynnyrch

A oes gennych chi ddiddordeb mewn gwerthu cynnyrch Mwydro o fewn eich siop annibynnol?

Cysylltwch drwy gwblhau’r ffurflen hon neu drwy e-bostio info@mwydro.com i ddysgu mwy a gwneud cais am gatalog masnach.

Cymraeg
%d bloggers like this: