AMDANOM NI

I weld y dudalen yn Saesneg, cliciwch yma.

Mae Mwydro yn gwmni darlunio digidol, wedi ei leoli yng Nghaernarfon.

Mae popeth yn cael ei ddylunio gyda llaw gennyf i, Sioned Young, o’m cartref yng Nghaernarfon. Dwi’n arbenigo mewn dyluniadau llachar a hardd sy’n falch o fod yn Gymreig. Sefydlais y busnes nol yn 2019, a dwi’n rhedeg y busnes yn rhan amser ynghyd a gweithio i Awdurdod Lleol.

Trwy Mwydro dwi’n creu pob math o gynnyrch wedi’i ddylunio’n ddigidol, gan gynnwys Cardiau Cyfarch Cymraeg, Taflenni Sticeri Cymraeg a Phrintiau. Dwi hefyd yn creu sticeri GIFs wedi eu animeiddio ar gyfer cyfryngau cymdeithasol i helpu busnesau sefyll allan o’r dorf ar-lein.

Mae fy GIFs iaith Gymraeg wedi cael eu gweld dros 125 miliwn o weithiau, a dwi hefyd wedi helpu fy nghleientiaid cael eu GIFs wedi eu gweld gan y miloedd hefyd!

Mae Mwydro hefyd wedi datblygu i ddod yn hwb i berchnogion busnesau bach, gyda fy ngwaith nawr yn cynnwys fy nghyfres ‘Mwydro Gyda…’ ble dwi’n eistedd i lawr ar Instagram Live i sgwrsio gyda pherchennog busnes bach. A dwi’n rhedeg gweithdai gan gynnwys Meistroli Straeon a Reels Instagram. Dwi’n llysgennad i Llwyddo'n Lleol a’n Fodel Rôl i Syniadau Mawr Cymru, wedi i mi dderbyn cefnogaeth gan y ddau gynllun o fewn dyddiau cynnar fy musnes.

Dwi’n caru unrhyw esgus i fod yn greadigol a byddwn wrth fy modd petai chi’n ymuno a fi ar fy siwrne. Byddwch yn siŵr o’m dilyn ar fy nhudalen Instagram!

Cleientiaid GIFs a Darlunio

  • Anna Gwenllian
  • Bro360
  • BrittneyCEO
  • Bragdy Cybi
  • Coed y Ddraig
  • Clyd
  • Faces by Poppy
  • Menter Môn
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • Freelance Lifestyle
  • Gemwaith gan Anest
  • Gwna Harbour
  • Lora Wyn
  • Mirsi
  • Mudiad Meithrin
  • Pethau Pert
  • M-SParc
  • Physio Môn
  • Podiau Môn
  • Siop Cwlwm
  • Sbarduno
  • Snowdonia Wagyu
  • Tafwyl
  • The Gweithdy
  • Jones o Gymru
  • Theatrau Sir Gar

Am enghreifftiau o fy ngwaith a phrisiau, cliciwch yma

Dwi o hyd yn hapus i drafod prosiectau newydd, ac mae’n bosib cysylltu yma.

Masnach

Gyda diddordeb mewn stocio cynnyrch Mwydro o fewn eich siop? Cysylltwch er mwyn derbyn copi o’m catalog masnach.

Cymraeg
%d bloggers like this: