Newydd! Printiau gan Cardiau Mwydro

Fel rhywun sydd o hyd yn awyddus i dyfu a datblygu fy musnes, dwi’n gyffrous o fedru rhannu fy nghasgliad newydd o brintiau wedi i’w greu gyda llaw – nawr ar gael i’w archebu ar fy nhudalen Etsy newydd.

Yn y post yma cewch y cyfle i gael golwg arbennig ar y printiau a’r proses creu.

Yn gyffrous ac unigryw iawn, mae pob print yn y casgliad yn ddarnau gwreiddiol wedi i’w greu gyda llaw gan ddefnyddio fineliners a phensiliau – heb unrhyw olygu na argraffu digidol. Mae hynny’n gwneud pob print ychydig mwy sbeshal a’n cwbl unigryw!

Siop Etsy: https://www.etsy.com/uk/shop/CardiauMwydro?ref=search_shop_redirect

Printiau Codi Calon

Mae’r casgliad cychwynnol yn cynnwys tri phrint llawen i godi calon. Mae pob print hefyd ar gael yn Saesneg wrth holi a’n dod heb i’w fframio ar gerdyn safon uchel 250gsm A5, wedi i’w becynnu mewn llawes seloffen a chefn bwrdd llwyd am gefnogaeth bellach.

Cewch archebu o fy siop Etsy neu trwy ddanfon neges, gyda phob print yn dod gyda phostio am ddim.

Printiau wedi’i bersonoli

Yn dilyn ymateb cadarnhaol i fy ngwaith wedi’i bersonoli, roeddwn yn awyddus i hefyd cynnig detholiad cychwynnol o brintiau wedi’i bersonoli.

Mae’r rhain eto wedi i’w greu yn gyfan gwbl gyda llaw ac ar gael mewn maint A4 neu A5 ar gerdyn safon uchel 250gsm a chefn bwrdd llwyd.

Mae’r casgliad cychwynnol yn cynnwys printiau clasur, sy’n addas i enwau teuluoedd, printiau ystafell, babis newydd a mwy.

Hefyd, mae’r proses archebu o Etsy yn hawdd iawn hefyd – gyda blwch i chi nodi’r union destun hoffech ar eich print. Neu, mae croeso i chi ddanfon neges i drafod.

Dwi wir yn gobeithio y byddwch yn hoffi’r printiau, a byddwch yn siŵr o adael sylwad os oes rhywbeth arall hoffech weld yn rhan o’r casgliad!

Diolch a phob hwyl, Sioned

Published by Mwydro

Illustrator and GIF Artist

One thought on “Newydd! Printiau gan Cardiau Mwydro

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

%d bloggers like this: